beibl.net 2015

2 Pedr 1:9-15 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae'r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw'n ddall! Maen nhw wedi anghofio'r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau'r gorffennol.

10. Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi eich galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn,

11. a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.

12. Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd.

13. Ond dw i'n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i'ch atgoffa chi tra dw i'n dal yn fyw.

14. Dw i'n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny'n ddigon clir i mi.

15. Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi'n dal i gofio'r pethau yma ar ôl i mi farw.