beibl.net 2015

2 Corinthiaid 5:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun.

2. Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol.

3. A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth.

4. Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.

5. Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.

6. Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.