12. Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn.
13. Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi ei roi i ni – ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi!
14. Dŷn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi'r cwbl, ni ddaeth â'r newyddion da am y Meseia atoch chi!
15. Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy.
16. Wedyn byddwn ni'n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi'r newyddion da mewn lleoedd sy'n bellach i ffwrdd na chi. Ond dŷn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi ei wneud!
17. “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud.”
18. Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol.