beibl.net 2015

1 Cronicl 9:23-34 beibl.net 2015 (BNET)

23. Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).

24. Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.

25. Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod.

26. Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr.

27. Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore.

28. Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw.

29. Roedd eraill yn gofalu am ddodrefn ac offer y lle sanctaidd. Nhw oedd â gofal am y blawd mân, y gwin, yr olew olewydd, y thus a'r perlysiau hefyd.

30. (Ond dim ond offeiriaid oedd yn cael cymysgu'r perlysiau.)

31. Roedd Matitheia, un o'r Lefiaid (mab hynaf Shalwm o glan Cora) yn gyfrifol am bobi'r bara ar gyfer yr offrymau.

32. Roedd rhai o'u perthnasau, oedd yn perthyn i'r un clan, yn gyfrifol am baratoi'r bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob Saboth.

33. Roedd y cantorion oedd yn benaethiaid ar deuluoedd y Lefiaid yn aros mewn ystafelloedd, ac yn rhydd o ddyletswyddau eraill. Roedd eu gwaith nhw yn mynd yn ei flaen ddydd a nos.

34. Y rhain oedd penaethiaid teuluoedd llwyth Lefi, fel roedden nhw wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.