beibl.net 2015

1 Cronicl 8:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. Gyda'i wraig Chodesh cafodd feibion:Iobab, Sibia, Mesha, Malcam,

10. Iewts, Sochia, a Mirma. Dyma'r meibion ganddo oedd yn arweinwyr teuluoedd.

11. O Chwshîm cafodd Afitwf ac Elpaäl.

12. Meibion Elpaäl:Eber, Misham, Shemed (wnaeth adeiladu Ono a Lod a'r pentrefi o'u cwmpas),

13. Bereia a Shema. Nhw oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn byw yn Aialon, wnaeth yrru pobl Gath i ffwrdd.

14. Achïo, Shashac, Ieremoth,

15. Sebadeia, Arad, Eder,

16. Michael, Ishpa, a Iocha oedd meibion Bereia.