beibl.net 2015

1 Cronicl 8:29-33 beibl.net 2015 (BNET)

29. Roedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha).

30. Enw ei fab hynaf oedd Abdon, wedyn cafodd Swr, Cish, Baal, Nadab,

31. Gedor, Achïo, Secher a Milcoth.

32. Micloth oedd tad Shimea. Roedden nhw hefyd yn byw yn Jerwsalem gyda'i perthnasau.

33. Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab ac Eshbaal.