beibl.net 2015

1 Cronicl 5:10-26 beibl.net 2015 (BNET)

10. Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead.

11. Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain:

12. Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Janai a Shaffat yn Bashan.

13. Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Jacan, Sïa, ac Eber.

14. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws.

15. Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan.

16. Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf.

17. Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel.

18. Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da.

19. Dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab.

20. Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a pawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo.

21. Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion.

22. Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud.

23. Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon.

24. Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw:Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, ac Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog.

25. Ond dyma nhw'n troi eu cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.)

26. Felly dyma Duw yn annog Pwl, sef Tiglath-pileser, brenin Asyria, i fynd â phobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse i'r gaethglud. Dyma fe'n mynd â nhw i Halach, Chabor, Hara ac at afon Gosan. Ac maen nhw yno hyd heddiw.