5. Roedd gan Ashchwr, tad Tecoa, ddwy wraig, sef Chela a Naära:
6. Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära.
7. Meibion Chela oedd Sereth, Sochar, Ethnan
8. a Cots (tad Anwf a Hatsobeba), a hefyd hynafiad teuluoedd Achar-chel fab Harwm.
9. Roedd Jabets yn cael ei barchu fwy na'i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Jabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.)
10. Gweddïodd Jabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi.
11. Celwb oedd brawd Shwcha a tad Mechir, a Mechir oedd tad Eshton.
12. Eshton oedd tad Bethraffa, Paseach a Techinna (tad Ir-nachash). Dyma bobl Recha.
13. Meibion Cenas:Othniel a Seraia.Meibion Othniel:Chathath a Meonothai.
14. Meonothai oedd tad Offra.Seraia oedd tad Joab, hynafiad y bobl sy'n byw yn Ge-charashîm (sy'n cael yr enw am eu bod nhw yn grefftwyr).
15. Meibion Caleb fab Jeffwnne:Irw, Ela, a Naäm.Mab Ela:Cenas.
16. Meibion Jehalel-el:Siff, Siffa, Tireia, ac Asarel.
17. Meibion Esra:Jether, Mered, Effer a Jalon.Dyma wraig Mered (Bithia) yn cael plant:Miriam, Shammai, ac Ishbach oedd yn dad i Eshtemoa.
18. Ei wraig e o Jwda oedd mam Iered (tad Gedor), Heber (tad Socho) a Iecwthiel (tad Sanoach.)Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Bitheia, merch y Pharo, oedd wedi priodi Mered.