beibl.net 2015

1 Cronicl 4:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Meibion Shimon:Amnon, Rinna, Ben-chanan, a Tilon.Disgynyddion Ishi:Socheth a Ben-socheth.

21. Meibion Shela fab Jwda:Er (tad Lecha), Lada (tad Maresha), teuluoedd y gweithwyr lliain main yn Beth-ashbea,

22. Iocim, dynion Cosefa, Joash a Saraff – y ddau yn arweinwyr yn Moab a Iashwfi Lechem. (Mae'r hanesion yma yn dod o archifau hynafol.)

23. Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin.

24. Disgynyddion Simeon:Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul,

25. wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw.

26. Disgynyddion Mishma:Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr.

27. Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.

28. Roedden nhw'n byw yn Beersheba, Molada, Chatsar-shwal,

29. Bilha, Etsem, Tolad,

30. Bethwel, Horma, Siclag,

31. Beth-marcaboth, Chatsar-swsim, Beth-biri, a Shaaraim. Y rhain oedd eu trefi nhw nes bod Dafydd yn frenin.