1 Cronicl

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

beibl.net 2015

1 Cronicl 3 beibl.net 2015 (BNET)

Meibion Dafydd

1. Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.

2. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.

3. Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.

4. Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.

5. A dyma'r meibion gafodd e yno:Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon – mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.

6. Naw mab arall Dafydd oedd:Ifchar, Elishwa, Eliffelet,

7. Noga, Neffeg, Jaffia,

8. Elishama, Eliada, ac Eliffelet.

9. Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw.

Disgynyddion Solomon

10. Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,

11. Jehoram, Ahaseia, Joas,

12. Amaseia, Asareia, Jotham,

13. Ahas, Heseceia, Manasse,

14. Amon, a Joseia

15. a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.

16. Jehoiacim oedd tad Jehoiachin a Sedeceia.

Disgynyddion Jehoiachin

17. Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo:Shealtiel,

18. Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.

19. Meibion Pedaia:Serwbabel a Shimei.Meibion Serwbabel:Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.

20. Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.

21. Disgynyddion Chananeia:Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.

22. Disgynyddion Shechaneia:Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barïach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.

23. Meibion Nearia:Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.

24. Meibion Elioenai:Hodafia, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.