beibl.net 2015

1 Cronicl 27:1-16-22 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma restr o benaethiaid teuluoedd Israel oedd yn gapteiniaid yn y fyddin (ar unedau o fil ac o gant), a'r swyddogion oedd yn gwasanaethu'r brenin mewn gwahanol ffyrdd. Roedd pob adran yn gwasanaethu am un mis y flwyddyn, ac roedd 24,000 o ddynion ym mhob adran.

2. Mis 1 – Iashofam fab Safdiel a'i adran o 24,000.

3. (Roedd yn un o ddisgynyddion Perets ac yn bennaeth ar swyddogion y fyddin i gyd yn y mis cyntaf.)

4. Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000.

5. Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000.

6. (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)

7. Mis 4 – Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000.

8. Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000.

9. Mis 6 – Ira fab Iccesh o Tecoa, a'i adran o 24,000.

10. Mis 7 – Chelets o Pelon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000.

11. Mis 8 – Sibechai o Chwsha, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000.

12. Mis 9 – Abieser o Anathoth, un o ddisgynyddion Benjamin, a'i adran o 24,000.

13. Mis 10 – Maharai o Netoffa, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000.

14. Mis 11 – Benaia o Pirathon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000.

15. Mis 12 – Cheldai o Netoffa, un o ddisgynyddion Othniel, a'i adran o 24,000.

16-22. Y swyddogion oedd yn arwain llwythau Israel:Swyddog Llwyth Elieser fab Sichri Reuben Sheffateia fab Maacha Simeon Chashafeia fab Cemwel Lefi Sadoc disgynyddion Aaron Elihw (brawd Dafydd) Jwda Omri, mab Michael Issachar Ishmaïa fab Obadeia Sabulon Ierimoth fab Asriel Nafftali Hoshea fab Asaseia Effraim Joel fab Pedaia hanner llwyth Manasse Ido fab Sechareia hanner llwyth Manasse (yn Gilead) Iaäsiel fab Abner Benjamin Asarel fab Ierocham Dan Y rhain oedd yn arwain llwythau Israel.