beibl.net 2015

1 Cronicl 26:23-32 beibl.net 2015 (BNET)

23. Wedyn dyma'r arweinwyr oedd yn ddisgynyddion i Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel:

24. Shefwel, un o ddisgynyddion Gershom fab Moses, oedd arolygwr y stordai.

25. Roedd ei berthnasau drwy Elieser yn cynnwys: Rechabeia ei fab, wedyn Ishaeia ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Joram, Sichri i Shlomith.

26. Shlomoth a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am yr holl stordai lle roedd y pethau oedd wedi eu cysegru gan y Brenin Dafydd yn cael eu cadw. (A pethau wedi eu cysegru gan benaethiaid teuluoedd oedd yn gapteiniaid unedau o fil ac o gant, a swyddogion eraill y fyddin.

27. Roedden nhw wedi cysegru peth o'r ysbail gafodd ei gasglu, a'i gyfrannu tuag at gynnal a chadw teml yr ARGLWYDD.)

28. Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am bopeth gafodd ei gysegru gan y proffwyd Samuel, Saul fab Cish, Abner fab Ner, a Joab fab Serwia. Shlomith a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am bopeth oedd wedi cael ei gysegru.

29. Roedd Cenaniahw o glan Its'har, a'i feibion, yn gyfrifol am waith tu allan i'r deml, fel swyddogion a barnwyr dros bobl Israel.

30. Wedyn cafodd Chashafeia o glan Hebron a'i berthnasau (1,700 o ddynion abl) gyfrifoldebau yn Israel i'r gorllewin o'r Iorddonen. Roedden nhw'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin.

31. Wedyn Ierïa oedd pennaeth clan Hebron yn ôl y cofrestrau teuluol. (Pan oedd Dafydd wedi bod yn frenin am bedwar deg o flynyddoedd, dyma nhw'n chwilio drwy'r cofrestrau, a darganfod fod dynion abl o glan Hebron yn byw yn Iaser yn Gilead.)

32. Roedd gan Ierïa 2,700 o berthnasau oedd yn benaethiaid teuluoedd. A dyma'r Brenin Dafydd yn rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw dros lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse. Roedden nhw hefyd yn gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin.