39. (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.
40. Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.)
41. Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)
42. Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.
43. Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.