beibl.net 2015

1 Cronicl 16:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Cofiwch ei ymrwymiad bob amser,a'i addewid am fil o genedlaethau –

16. yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac.

17. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!

18. “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”

19. Dim ond criw bach ohonoch chi oedd –rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,

20. ac yn crwydro o un wlad i'r llall,ac o un deyrnas i'r llall.

21. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:

22. “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”

23. Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!a dweud bob dydd sut mae e'n achub.

24. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

25. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.