beibl.net 2015

1 Cronicl 16:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw.

2. Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw yr ARGLWYDD.

3. Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel – dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a teisen rhesin.

4. Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel.

5. Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau;

6. a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.

7. Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd, i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch: