17. Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia.
18. Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, Iaäsiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau.
19. Roedd y cerddorion Heman, Asaff ac Ethan i seinio'r symbalau pres;
20. Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach;
21. Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain.
22. Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes;
23. wedyn Berecheia ac Elcana yn gofalu am yr Arch,
24. a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch.
25. Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-Edom i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i Jerwsalem, gyda dathlu mawr.
26. Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd.
27. Roedd Dafydd a'r Lefiaid oedd yn cario'r arch, y cerddorion, a Cenaneia, arweinydd y côr, mewn gwisgoedd o liain main. Roedd Dafydd yn gwisgo effod hefyd, sef crys offeiriad.
28. Felly dyma Israel gyfan yn hebrwng Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD gan weiddi, a chanu'r corn hwrdd ac utgyrn, symbalau, nablau a thelynau.
29. Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.