beibl.net 2015

1 Cronicl 12:22-34 beibl.net 2015 (BNET)

22. Yr adeg yna roedd dynion yn dod drosodd at Dafydd bob dydd, nes bod ei fyddin wedi tyfu'n fyddin enfawr.

23. Dyma gofnod o'r milwyr a'u harweinwyr wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Hebron, i'w wneud yn frenin yn lle Saul (fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud):

24. O lwyth Jwda – 6,800 o filwyr arfog yn cario tarianau a gwaywffyn.

25. O lwyth Simeon – 7,100 o filwyr dewr.

26. O lwyth Lefi – 4,600.

27. Daeth Jehoiada (arweinydd disgynyddion Aaron) a 3,700 o ddynion,

28. a Sadoc, milwr ifanc, a 22 arweinydd o'i glan.

29. O lwyth Benjamin (sef y llwyth roedd Saul yn perthyn iddo) – 3,000. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw, cyn hynny, wedi bod yn deyrngar i Saul.

30. O lwyth Effraim – 20,800 o filwyr, pob un yn enwog yn ei glan ei hun.

31. O hanner llwyth Manasse – 18,000 wedi cael eu dewis i ddod i wneud Dafydd yn frenin.

32. O lwyth Issachar – 200 o gapteiniaid a'u perthnasau i gyd oddi tanyn nhw. Roedden nhw'n deall arwyddion yr amserau, ac yn gwybod beth oedd y peth gorau i Israel ei wneud.

33. O lwyth Sabulon – 50,000 o filwyr arfog yn barod i'r frwydr ac yn hollol deyrngar i Dafydd.

34. O lwyth Nafftali – 1,000 o swyddogion a 37,000 o filwyr yn cario tarianau a gwaywffyn.