beibl.net 2015

1 Cronicl 11:3-19 beibl.net 2015 (BNET)

3. Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, fel roedd Duw wedi addo drwy Samuel.

4. Aeth Dafydd a byddin Israel i ymosod ar Jerwsalem, sef Jebws. (Y Jebwsiaid oedd wedi byw yn yr ardal honno erioed.)

5. A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).

6. Roedd Dafydd wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n arwain yr ymosodiad ar y Jebwsiaid yn cael ei wneud yn bennaeth y fyddin!” Joab fab Serwia wnaeth arwain yr ymosodiad, a daeth yn bennaeth y fyddin.

7. Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a dyna pam mae'n cael ei galw yn Ddinas Dafydd.

8. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas.

9. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD holl-bwerus gydag e.

10. Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.

11. Dyma restr o'i filwyr dewr:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

12. Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o'r ‛Tri Dewr‛.

13. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid.

14. Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.

15. Dyma dri o'r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

16. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem.

17. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

18. Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD,

19. a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro eu bywydau i'w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.