23. Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
24. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
25. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
26. Dyma restr o'r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
27. Shamoth o Haror, Chelets o Pelon,
28. Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth,
29. Sibechai o Chwsha, Ilai o deulu Achoach,
30. Maharai o Netoffa, Cheled fab Baana o Netoffa,
31. Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon,
32. Chwrai o Wadi Gaash, Abiel o Arba,