Fe sydd wedi ei gwneud hi'n bosib i chi berthyn i'r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i'w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw. Mae'n ein gwneud ni'n lân ac yn bur, ac mae wedi talu'r pris i'n rhyddhau ni o afael pechod.