beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 8:49-64 beibl.net 2015 (BNET)

49. Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw.

50. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi eu concro nhw eu trin nhw'n garedig.

51. Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn.

52. Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti.

53. Achos rwyt ti wedi eu dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti trwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.”

54. Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd.

55. Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel:

56. “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e trwy Moses ei was.

57. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni.

58. Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid.

59. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen.

60. Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – does dim duw arall.

61. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.”

62. Roedd y brenin, a pobl Israel i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.

63. Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r ARGLWYDD.

64. Ar y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.