beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 5:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau.

11. Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn.

12. Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.

13. Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog.

14. Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol.

15. Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau,

16. heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr.

17. Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, costus wedi eu naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml.

18. Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a paratoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml.