14. Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.”
15. Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Dyma fe'n mynd i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a cynnal gwledd i'w swyddogion i gyd.
16. Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw'n buteiniaid.
17. Dyma un o'r merched yn dweud, “Syr, dw i a'r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra roedden ni gyda'n gilydd yn y tŷ.
18. Yna dridiau wedyn dyma hithau'n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni'n dwy.
19. Un noson dyma ei mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno.
20. Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra roeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i.
21. Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.”