beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 22:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’“A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’

22. “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai.“A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’

23. “Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”

24. Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”

25. A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”

26. Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab.

27. Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’”

28. A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddywedais i!”

29. Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead.

30. A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i yn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i'r frwydr.