beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 21:3-21 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae'r tir wedi perthyn i'r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.”

4. Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, ac yn gwrthod bwyta.

5. A dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?”

6. A dyma fe'n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi, neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi'r winllan i mi.”

7. A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.”

8. Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a'u hanfon at yr arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth.

9. Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb.

10. Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'i gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”

11. Dyma'r arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau.

12. Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ymprydio, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl.

13. Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.

14. Wedyn, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.”

15. Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw, mae e wedi marw.”

16. Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe'n mynd i lawr i'r winllan i'w hawlio hi iddo'i hun.

17. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias,

18. “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio'r winllan iddo'i hun.

19. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio'r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dywed wrtho hefyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu'r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’”

20. Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, ti wedi dod o hyd i mi, fy ngelyn!” A dyma Elias yn ateb, “Dw i wedi dod o hyd i ti am dy fod ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

21. Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben.Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel,sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.