beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 21:10-27 beibl.net 2015 (BNET)

10. Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'i gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”

11. Dyma'r arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau.

12. Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ymprydio, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl.

13. Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.

14. Wedyn, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.”

15. Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw, mae e wedi marw.”

16. Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe'n mynd i lawr i'r winllan i'w hawlio hi iddo'i hun.

17. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias,

18. “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio'r winllan iddo'i hun.

19. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio'r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dywed wrtho hefyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu'r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’”

20. Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, ti wedi dod o hyd i mi, fy ngelyn!” A dyma Elias yn ateb, “Dw i wedi dod o hyd i ti am dy fod ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

21. Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben.Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel,sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.

22. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’

23. “A dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’

24. ‘Bydd pobl Ahab sy'n marw yn y ddinasyn cael eu bwyta gan y cŵn.Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwladyn cael eu bwyta gan yr adar!’”

25. (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e.

26. Roedd yn gwneud pethau hollol afiach wrth addoli eilunod diwerth, yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.)

27. Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe'n rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd.