beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 20:34 beibl.net 2015 (BNET)

A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.

1 Brenhinoedd 20

1 Brenhinoedd 20:31-43