2. A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y brenin Ahab.
3. “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’”
4. A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr i! Ti sydd piau fi a phopeth sydd gen i.”
5. Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi.
6. Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”
7. Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”
8. A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.”
9. Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.