beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 2:6-21 beibl.net 2015 (BNET)

6. Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint.

7. “Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.

8. “A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’

9. Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”

10. Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd.

11. Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.

12. Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf.

13. Dyma Adoneia, mab Haggith, yn mynd i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti'n dod yma'n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai,

14. “Mae gen i rywbeth i'w ofyn i ti.”“Beth ydy hwnnw?” meddai hithau.

15. A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny.

16. Mae gen i un peth dw eisiau ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.”A dyma hi'n dweud, “Dos yn dy flaen.”

17. “Wnei di ofyn i'r Brenin Solomon roi Abisag o Shwnem yn wraig i mi. Fydd e ddim dy wrthod di.”

18. “Iawn”, meddai Bathseba. “Gwna i ofyn i'r brenin ar dy ran di.”

19. Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma'r brenin yn codi i'w chyfarch ac yn ymgrymu o'i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe'n galw am gadair i'w fam, a dyma hi'n eistedd ar ei ochr dde.

20. A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae gen i rywbeth bach i'w ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma fe'n ateb, “Gofyn di mam. Wna i ddim dy wrthod di.”

21. A dyma hi'n dweud, “Rho Abisag, y ferch o Shwnem, yn wraig i dy frawd Adoneia.”