beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 18:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i?

10. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.

11. A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’

12. Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.

13. Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.

14. A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”

15. Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”

16. Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.

17. Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”

18. Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!

19. “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”