beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 18:35-46 beibl.net 2015 (BNET)

35. Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas.

36. Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i.

37. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.”

38. Yn sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos.

39. Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn!”

40. Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at Afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno.

41. Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.”

42. Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau.

43. A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.

44. Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.”A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’”

45. Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel.

46. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.