beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 16:25-33 beibl.net 2015 (BNET)

25. Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.

26. Roedd yn ymddwyn fel Jeroboam fab Nebat, ac yn gwneud i Israel bechu hefyd a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth.

27. Mae gweddill hanes Omri, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

28. Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

29. Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.

30. Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.

31. Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu i Baal a'i addoli e!

32. Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi.

33. Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nac unrhyw frenin o'i flaen.