beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 16:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond rwyt ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw.

3. Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat.

4. Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinasyn cael eu bwyta gan y cŵn.Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwladyn cael eu bwyta gan yr adar!”

5. Mae gweddill hanes Baasha, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

6. Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le.

7. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda teulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol!

8. Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd.

9. Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwyn yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Arsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).

10. Dyma Simri'n mynd i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.

11. Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd.

12. Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd.

13. Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi eu gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth.

14. Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.