19. Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
20. Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
21. Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri.
22. Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
23. Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa.
24. Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe'n adeiladu tref ar y bryn a'i galw'n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd.
25. Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.
26. Roedd yn ymddwyn fel Jeroboam fab Nebat, ac yn gwneud i Israel bechu hefyd a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth.