beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 15:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd.

2. Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom.

3. Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â'i dad o'i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod.

4. Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma'r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw'r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i'w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel.

5. Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio'r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad).

6. Roedd y rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam wedi para tra roedd Abeiam yn fyw.

7. Mae gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam.

8. Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le.

9. Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda.

10. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain.

11. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.

12. Gyrrodd y puteiniaid teml allan o'r wlad, a chael gwared â'r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi eu gwneud.

13. Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Nant Cidron.

14. Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.

15. Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD.

16. Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy'r amser.