beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 14:24-31 beibl.net 2015 (BNET)

24. Roedd yna hyd yn oed buteinwyr teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.

25. Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem.

26. Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a palas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud!

27. Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tariannau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin.

28. Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.

29. Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

30. Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.

31. Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Naäma, gwraig o wlad Ammon oedd ei fam. A'i fab, Abeiam, ddaeth yn frenin yn ei le.