beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 11:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem.

8. Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau.

9. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i fwrdd oddi wrtho. Yr ARGLWYDD oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith,

10. a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando.

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was.

12. Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di.

13. Ond wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis.”