1. Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid.
2. Dyma'r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd.
3. Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn.
4. Wrth iddo fynd yn hŷn dyma ei wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd Dafydd ei dad.