3. Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
4. Roedd dillad Ioan wedi eu gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5. Roedd pobl o Jerwsalem a phob man arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato.
6. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn Afon Iorddonen.
7. Dyma rai o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
8. Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod chi wedi newid go iawn.
9. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!