33. Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu.
34. Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd.
35. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu:
36. “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?”
37. Atebodd Iesu: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.’
38. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysica.
39. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’
40. Mae'r cwbl sydd yn y Gyfraith a'r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.”
41. Tra oedd y Phariseaid yno gyda'i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw,
42. “Beth ydy'ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?”“Mab Dafydd,” medden nhw.
43. A dyma Iesu'n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw'n ‛Arglwydd‛? Achos mae'n dweud,
44. ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’
45. Os ydy Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”
46. Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.