beibl.net 2015

Jeremeia 43 beibl.net 2015 (BNET)

Jeremeia'n cael ei gymryd i'r Aifft

1. Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw,

2. dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft.

3. Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.”

4. Felly wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw.

5. Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi dianc.

6. Hefyd y bobl oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol wedi eu gadael yng ngofal Gedaleia – dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.)

7. Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches.

Jeremeia yn proffwydo y byddai Babilon yn ymosod ar yr Aifft

8. Yn Tachpanches dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:

9. “Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn.

10. Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti.

11. Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft.Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.

12. Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed.

13. Bydd e'n malu obelisgau Heliopolis, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft yn ulw.’”