9. Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon – gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
10. Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.
11. Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia.
12. “Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.”
13. Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon
14. yn anfon am Jeremeia a'i gymryd o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a'i gymryd i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.
15. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu:
16. “Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddywedais i i'r ddinas yma – gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
17. Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni.
18. Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.