18. A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’”
19. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
20. “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn.
21. A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i lwyth Lefi chwaith.
22. Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, a'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’”
23. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
24. “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.
25. Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: Dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid.