9. Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.
10. Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
11. “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’
12. “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”
13. Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gofyn i bobl y gwledydd eraillos ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14. Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15. Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdda mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16. O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychrynac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
17. Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.Bydda i'n troi cefn arnyn nhwyn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”
18. A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
19. “ARGLWYDD, wnei di ymateb plîs?Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
20. Ydy'n iawn i dalu drwg am dda?Maen nhw wedi cloddio twll i mi.Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'npledio ar eu rhan nhw o dy flaen di?Roeddwn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
21. Felly gad i'w plant nhw lwgu!Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel!Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant.Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau,a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
22. Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y taiwrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd.Maen nhw wedi cloddio twll i mia gosod trapiau i geisio fy nal.