13. Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.
14. Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan.
15. Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau –
16. gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.
17. Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr.
18. Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb.
19. Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o'r golwg.
20. Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na'r mynyddoedd uchaf
21. Cafodd popeth byw ei foddi – adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy'n heidio ar y ddaear, a phob person byw.
22. Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw.
23. Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd – pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl.
24. Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am 150 diwrnod.