11. Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
12. Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd.
13. A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
14. Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan o'r dwnsiwn ar frys. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo.
15. A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.”
16. Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy'r unig un sy'n gallu dweud wrth y Pharo sut fydd e'n llwyddo.”
17. Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan yr afon Nil.
18. Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi eu pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
19. Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd.
20. A dyma'r gwartheg tenau gwael yn bwyta'r saith buwch oedd yn edrych yn dda.
21. Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw'n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi'n deffro.
22. “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.