24. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.
25. Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.
26. A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.
27. Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
28. Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.
29. Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.
30. Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.
31. Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni.
32. Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
33. Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
34. Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”