20. Ond dw i wedi clywed beth rwyt ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio fe, ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr.
21. Ond bydda i'n cadarnhau yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud gydag Isaac. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.”
22. Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.
23. Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi eu prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
24. Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu.
25. Roedd Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu.
26. Dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael eu henwaedu y diwrnod hwnnw.
27. A cafodd pob un o'r dynion a'r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai oedd wedi eu prynu).