4. Dyna ble roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD, ac wedi addoli'r ARGLWYDD.
5. Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd.
6. Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid.
7. Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
8. Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu!
9. Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu. Dewis di ble rwyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.”
10. Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu fel gwlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.)
11. Felly dyma Lot yn dewis dyffryn yr Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu.
12. Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.
13. Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
14. Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad.
15. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth.
16. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear!