7. Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw.
8. Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi.
9. Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau.
10. Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!”
11. Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni acw, byddwn ni'n gwneud yn union beth mae'n llythyrau yn ei ddweud.